2022–2025: Beth rydym wedi'i gyflawni

Dechreuodd y rhaglen Dysgu Creadigol a gyflwynwyd mewn partneriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru yn 2015.

Mae 2022-2025 yn nodi diwedd y cyfnod diweddaraf o gyfleoedd sy'n cefnogi athrawon i archwilio a datblygu dulliau newydd o ddylunio cwricwlwm trwy addysgeg dysgu creadigol sy'n gosod y celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg.

← Sgroliwch i weld y cyfnodau →
Cyfnod 1
Cyfnod 2
Cyfnod 3
2015
2016
2017
2018
2019
2020
2021
2022
2023
2024
2025
Rhaglen Gyfan 2015–2025
0
ysgol wedi cymryd rhan
0
athro wedi'u hyfforddi
0
dysgwr wedi cymryd rhan
0
gweithiwr creadigol wedi'u hyfforddi
0
grant wedi'u dyfarnu
Wall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall PhotoWall Photo

Meysydd Rhaglen

Ysgolion Creadigol Arweiniol

Yn rhan o'r cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol, mae dysgwyr, athrawon a gweithwyr creadigol proffesiynol yn cydweithio i weithredu ymholiadau creadigol pwrpasol mewn ymateb i'r heriau unigryw y maent yn eu hwynebu. Mae'r broses gydweithredol hon yn annog amgylchedd lle gall dysgwyr ofyn cwestiynau, gan arwain atynt yn cymryd mwy o ran mewn gwneud penderfyniadau wrth ddod â'r cwricwlwm yn fyw.

Nod y cynllun oedd archwilio:

  • dangos sut y gall creadigrwydd a dulliau creadigol o addysgu a dysgu drawsnewid canlyniadau dysgwyr a chefnogi newid yn niwylliant dysgu ysgolion;
  • beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i bobl ifanc fod yn greadigol a sut maen nhw'n gwybod pryd mae'n digwydd;
  • beth all athrawon a gweithwyr creadigol proffesiynol eraill ei wneud i annog a datblygu creadigrwydd; a
  • sut y gall rhinweddau ystafell ddosbarth sy'n gweithredu'n dda gefnogi creadigrwydd ar draws y cwricwlwm cyfan.
0
ysgol wedi cymryd rhan
0
athro wedi'u hyfforddi
0
dysgwr wedi cymryd rhan
0
gweithiwr creadigol wedi'u hyfforddi

Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol

Mae Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol yn gynllun ar gyfer athrawon mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig sydd am archwilio hanes ethnig a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol. Fe'i hadeiladwyd ar sail dull Ysgolion Creadigol Arweiniol, ac roedd yn cysylltu'r cwricwlwm â byd go iawn dysgwyr a'u cymunedau. Nod Cynefin oedd ehangu rhwydwaith o ysgolion ledled Cymru a dderbyniodd gefnogaeth i ddyfeisio a chyflawni prosiectau creadigol cydweithredol yn ymwneud â:

  • deall hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas ddiwylliannol ac ethnig amrywiol;
  • archwilio profiadau a chyfraniadau pobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol Cymru, ddoe a heddiw, datblygu ymwybyddiaeth o'r bobl, y diwylliannau a'r cymunedau sy'n ffurfio Cymru gyfoes;
  • archwilio hunaniaeth mewn perthynas â thyfu i fyny yng Nghymru gyfoes; a
  • datblygu dealltwriaeth dysgwyr o rôl creadigrwydd yn y cwricwlwm a phedwar diben addysg.
0
ysgol wedi cymryd rhan
0
athro wedi'u hyfforddi
0
dysgwr wedi cymryd rhan
0
gweithiwr creadigol wedi'u hyfforddi

Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar

Menter ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir sy'n gweithio gyda phlant 3–5 oed yw Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar. Mae hyn yn adeiladu ar ddull y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sefydledig ac fe'i cynlluniwyd i ategu'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir yng Nghymru. Roedd gan y fenter dri nod:

  • dod ag ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac ymarferwyr creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir, i greu amgylcheddau a phrofiadau sy'n gyfoethog o ran iaith, chwarae, datblygiad corfforol, y celfyddydau, creadigrwydd ac a fydd yn cefnogi plant fel dysgwyr annibynnol;
  • deall rôl ganolog creadigrwydd a chwarae yn natblygiad plentyn; a
  • cyfuno egwyddorion canolog y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir ag addysgeg arferion meddwl Creadigol a dysgu o Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.
Carousel image 1
Carousel image 2
Carousel image 3
0
ysgol wedi cymryd rhan
0
athro wedi'u hyfforddi
0
dysgwr wedi cymryd rhan
0
gweithiwr creadigol wedi'u hyfforddi

Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol

Mae'r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol ar gyfer arweinwyr ysgolion ar bob lefel – o athrawon dosbarth sydd â diddordeb mewn addysgu a dysgu creadigol, i Benaethiaid MDaP; a Phenaethiaid Blwyddyn i Is-benaethiaid i Benaethiaid sydd â diddordeb mewn arweinyddiaeth greadigol.

Nod y rhaglen oedd annog hyder mewn ffyrdd newydd o weithio, arloesi, myfyrio a gwydnwch tra hefyd yn datblygu dealltwriaeth o rôl creadigrwydd yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru, y pedwar diben a'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arwain.

0
ysgol wedi cymryd rhan
0
athro wedi'u hyfforddi
0
gweithiwr creadigol wedi'u hyfforddi

Ewch i Weld

Roedd Cronfa Ewch i Weld yn cynnig grantiau i alluogi athrawon mewn ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru i fynd â'u dysgwyr 3–16 oed i weld celfyddyd o ansawdd uchel mewn lleoliadau ledled Cymru ar y profiad.

Pwrpas y gronfa oedd sicrhau bod y celfyddydau yng Nghymru yn hygyrch i bob dysgwr, ac i alluogi ysgolion i fynd â dysgwyr allan o'r ystafell ddosbarth i brofi gweithiau creadigol eraill; gan roi cyfle iddynt ymateb i gelfyddyd o ansawdd uchel ledled Cymru a myfyrio arni.

Roedd y cyfleoedd yn cynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, celf, gŵyl ddiwylliannol neu unrhyw brofiad celfyddydol arall o ansawdd uchel.

0
ysgol wedi cymryd rhan
0
dysgwr wedi cymryd rhan
0
grant wedi'u dyfarnu

Rhowch Gynnig Arni

Roedd y gronfa hon ar gyfer dysgwyr 3-16 oed i roi cynnig ar weithgaredd ymarferol neu weithdy sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau mynegiannol yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol.

Fe'i cynlluniwyd i roi cyfleoedd i ddysgwyr 3-16 oed roi cynnig ar weithgaredd neu weithdy ymarferol untro i gefnogi ysgolion gyda darpariaeth Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol.

Roedd y gronfa'n cynnwys pum disgyblaeth Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol sef celf, dawns, drama, ffilm a'r cyfryngau digidol a cherddoriaeth.

Roedd Rhowch Gynnig Arni hefyd yn cefnogi cyflawniad Rhaglen Lywodraethu 2021–26 a'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth.

Carousel image 1
Carousel image 2
0
ysgol wedi cymryd rhan
0
dysgwr wedi cymryd rhan
0
grant wedi'u dyfarnu

Edrych Ymlaen

Yn dilyn cais llwyddiannus diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru i raglen cymorth grant Cwricwlwm i Gymru, mae Dysgu Creadigol Cymru yn falch o ddatgelu pennod newydd gyffrous yn ei genhadaeth i roi creadigrwydd wrth wraidd addysg.

Gan adeiladu ar ddegawd o effaith ac arloesedd, bydd y rhaglen newydd yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i ailddychmygu dyluniad cwricwlwm, dyfnhau ymgysylltiad, a datgloi potensial dysgwyr trwy ddulliau beiddgar a chreadigol.

Daw'r fenter newydd hon ar adeg hollbwysig ym myd addysg Cymru, gan gyd-fynd yn agos ag uchelgeisiau Cwricwlwm i Gymru. Trwy gyllid grant wedi'i dargedu, dysgu proffesiynol pwrpasol, a chydweithio â gweithwyr proffesiynol creadigol, bydd ysgolion yn cael eu grymuso i ddatblygu profiadau dysgu dychmygus, cynhwysol, ac sy'n cael eu gyrru gan ymholiad sy'n meithrin cynnydd ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.